Mae
yna amrywiaeth eang o ddefnyddiau crai ym Mhowys y gellid
eu hailgylchu/eu hailddefnyddio i gynhyrchu ynni a thrwy
hynny cwtogi ar wastraff sy'n cael ei anfon i safle
tirlenwi neu sy'n cael ei adael i bydru. Nod prosiectau
Ynni a Gwastraff yw ychwanegu gwerth at y gwastraff
a gynhyrchir ym Mhowys a datblygu ffyrdd y gellir defnyddio
ynni adnewyddadwy mewn amgylchedd gwledig.
Trwy weithio mewn partneriaeth â
busnesau a sefydliadau perthnasol, ein nod yw ychwanegu
gwerth at gynhyrchion gwastraff trwy gynnig cymorth
ag ymchwilio, datblygu cynnyrch, marchnata a sicrhau
cyhoeddusrwydd.
Mae Glasu hefyd yn gweithredu fel
hwylusydd, trwy gynnal cyfarfodydd i ddwyn ynghyd unigolion
sydd â diddordeb i drafod datblygu syniadau.
Dyma enghreifftiau o brosiectau sydd
ar y gweill ar hyn o bryd:
- Tanwydd
Pren ym Mhowys - wedi'i
gynllunio i ddynodi, hybu a manteisio i'r eithaf ar
gyfleoedd ar gyfer datblygu'r sector ynni pren cynaliadwy
ym Mhowys. Prif nod y prosiect fydd gwella ansawdd
tanwydd pren adnewyddadwy ym Mhowys ar ffurf boncyffion,
sglodion a pheledi, a sicrhau eu bod ar gael yn haws
a'u bod yn fwy cystadleuol.
- Rheoli
Gwastraff yn Arloesol -
dod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â
gwastraff masnachol (nad yw targedau'r Awdurdod Lleol
neu dargedau ailgylchu cenedlaethol yn berthnasol
iddo), trwy ddod o hyd i lwybrau newydd ar gyfer ailgylchu
a chreu cynhyrchion newydd a marchnadoedd newydd.
Rhagwelir y bydd cymunedau'n chwarae rhan mewn creu
cyn lleied o wastraff â phosib.
- Cyrchu
Arloesedd - galluogi Glasu
i barhau i ychwanegu gwerth mewn modd arloesol a chynaliadwy.
Bydd y gefnogaeth yma'n annog syniadau newydd i ddod
i'r fei ac yn annog cyflawni prosiectau penodol nad
yw'r tair rhaglen sy'n bodoli yn eu cwmpasu.
|